We provide respite care for children and young people who have severe learning disabilities and complex needs.
Young people can stay at Ty Laura from the age of four years up to their 18th birthday, giving them a high-quality break from home and their families much needed rest.
Many of the children we support have substantial and highly complex needs and playing outside benefits their health, wellbeing and development. The recently developed sensory garden at Ty Laura provides a safe space for children to play and support the development of a variety of skills such as hand-to-eye coordination and social interaction.
These skills give this group of children the opportunity to explore and gain independence, while providing them with a sense of control.
We pride ourselves on providing a home from home for our children and young people. Our well-equipped and peaceful setting gives parents complete peace of mind while their children enjoy a night away at Ty Laura.
Mae Tŷ Laura yn darparu gofal seibiant i blant a phobl ifanc o Abertawe sydd ag anableddau dysgu difrifol ac anghenion cymhleth.
Gall plant a phobl ifanc ddechrau dod i aros i Tŷ Laura pan maent yn bedair oed, hyd at eu pen-blwydd yn ddeunaw, er mwyn iddyn nhw gael gwyliau o safon o’u cartref, ac er mwyn i’w teulu gael seibiant haeddiannol.
Mae gan lawer o’r plant a gefnogwn nifer helaeth o anghenion, a’r rheini’n rhai cymhleth iawn, ac mae chwarae yn yr awyr agored yn fanteisiol i’w hiechyd, eu lles a’u datblygiad. Mae’r ardd synhwyraidd sydd wedi’i chreu’n ddiweddar yn Tŷ Laura yn fan diogel i blant chwarae, ac mae’n helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, fel rhyngweithio cymdeithasol a chydsymud rhwng y llaw a’r llygad.
Mae’r sgiliau hyn yn rhoi cyfle i'r grŵp yma o blant archwilio a bod yn annibynnol, gan roi ymdeimlad o reolaeth iddynt hefyd.
Pleser o’r mwyaf yw gallu cynnig llety cartrefol sydd fel ail gartref i'n plant a’n pobl ifanc. Mae ein lleoliad heddychlon, a’r adnoddau lu sydd gennym, yn golygu bod rhieni’n gallu bod yn gwbl dawel eu meddwl tra mae’r plant yn mwynhau aros dros nos yn Tŷ Laura.